Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
External |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 4 Mai 2020 |
|
||||
Amser: |
14.05 - 15.25 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2020(3) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Rhun ap Iorwerth AS David J Rowlands AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 16 Mawrth yn gofnod cywir.
2 Cyllideb Atodol 2020-21
Trafododd y Comisiynwyr gynnig y dylid gosod Cyllideb Atodol, i leihau cyllideb 2020-21 y Comisiwn o £61.411 miliwn i £59.575 miliwn.
Diben hynny oedd adlewyrchu'r cyhoeddiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi bod gweithredu Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi i gael ei ohirio am 12 mis tan 1 Ebrill 2021. Nid yw hyn yn newid gofyniad arian parod 2020-21 y Comisiwn o £56.075 miliwn.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Memorandwm Esboniadol (Atodiad un), i adlewyrchu'r cyhoeddiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi, a nodwyd y newid yn yr amserlen graffu sy'n gysylltiedig ag amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru.
Byddai'r Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod yn y ffordd arferol.
3 Coronafeirws
Rhoddwyd crynodeb i'r Comisiynwyr o'r dull, y penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan y Comisiwn i reoli effaith pandemig Covid-19 er mwyn cynnal gweithgaredd seneddol hanfodol a chadw Aelodau, staff a'r cyhoedd yn ddiogel.
Hefyd, nodwyd crynodeb o'r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Taliadau hyd yma ar yr ymateb i Covid-19.
Trafododd y Comisiynwyr yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a diolchwyd i'r holl staff a fu ynghlwm â'r gwaith cefndir i alluogi parhad busnes seneddol. I ddilyn, cafwyd trafodaeth ehangach am y cyfnod sydd i ddod. Trafodwyd y berthynas rhwng y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Busnes ynghylch busnes a'r adnoddau a ddarperir i gefnogi'r gweithgareddau hynny. Cydnabuwyd y gofynion a roddir ar dimau penodol drwy weithio o bell a phwysigrwydd cydnerthedd a dulliau cyflawni cadarn.
Gofynnodd y Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran cynllunio ar gyfer y camau nesaf.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Senedd
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr cyn dyddiad gweithredu’r newid enw.
5 Adroddiad blynyddol – sylwadau’r Comisiynwyr ar y drafft
Roedd y Comisiynwyr wedi trafod fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn yn ymwneud â 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020, er mwyn rhoi sylwadau cyn cwblhau'r adroddiad.
Roedd y Comisiynwyr yn croesawu’r gwaith hyd yma gan gydnabod y byddai diweddariadau ychwanegol i adlewyrchu digwyddiadau diweddar. Awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys adran edrych ymlaen.
Bydd yr adroddiad yn cael ei osod a'i gyhoeddi ar-lein yn dilyn cymeradwyaeth derfynol ym mis Mehefin.
6 Papurau i’w nodi:
6.a Y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y Bwrdd Gweithredol (Penderfyniadau Recriwtio)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o’r penderfyniadau recriwtio a ddarperir i holl gyfarfodydd y Comisiwn.
7 Unrhyw fater arall
Ystyriodd y Comisiynwyr amseriad cyfarfodydd yn y dyfodol os bydd patrwm cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn parhau.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi gwneud tri phenderfyniad brys.
Roedd y rhain yn ymwneud â darlledu’r cyfarfod llawn a chyfarfodydd phwyllgorau ac ymestyn y cyfnod pan na fydd gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael eu cynnal.
Cafwyd briffio ychwanegol hefyd i egluro'r adnodd ychwanegol, er mwyn cefnogi’r flaenoriaeth strategol o ymgysylltu.